Dyletswydd feddygol mewn digwyddiad
P’un a ydych chi’n trefnu cynulliad cymunedol bach neu ŵyl ar raddfa fawr, gall St John Ambulance Cymru ddarparu cymorth meddygol proffesiynol i sicrhau bod eich digwyddiad yn ddiogel a’i fod yn cydymffurfio.
Mae gan drefnwyr y digwyddiad gyfrifoldeb i gynllunio ar gyfer diogelwch y rhai sy’n bresennol, staff a pherfformwyr. Mae cael y cymorth cyntaf a’r cymorth meddygol cywir nid yn unig yn bodloni gofynion cyfreithiol ac yswiriant, ond hefyd yn rhoi tawelwch meddwl bod cymorth wrth law pe bai unrhyw beth yn mynd o’i le.
Beth ydym yn ei ddarparu?
Rydym yn teilwra ein dyletswydd feddygol i weddu i’ch digwyddiad chi, gan sicrhau bod y bobl a’r offer cywir yn eu lle. Yn dibynnu ar faint a lefel risg eich digwyddiad, gallwn ddarparu’r canlynol:
- Cynllunio Arbenigol ar gyfer Digwyddiadau ac Asesu Adnoddau
- Cyngor Arbenigol ar Ofynion Iechyd a Diogelwch
- Gwirfoddolwyr a staff wedi’u cymhwyso’n llawn
- Offer Modern
- Sicrhau Ansawdd
Mae gan ein timau brofiad o weithio ochr yn ochr â gwasanaethau brys eraill a staff digwyddiadau i ddarparu gwasanaeth didrafferth, proffesiynol.
Pa adnoddau allwn ni eu cynnig?
We can offer an array of resources at events, from front-line ambulances to off road 4×4’s, to mobile treatment centres and paramedics to nurses. Our fleet includes:
- Ambiwlansys rheng flaen
- Cerbydau Ymateb Cyflym
- Cerbydau 4×4 oddi ar y ffordd
- Canolfannau Triniaeth Symudol
Pwy fydd yn bresennol yn y digwyddiad?
Mae ein gwirfoddolwyr wedi’u hyfforddi mewn sgiliau uwch cymorth cyntaf, ambiwlans ac achub bywydau ac yn bresennol mewn miloedd o ddigwyddiadau bob blwyddyn, gan ddarparu cymorth hanfodol ar leoliad, ar y ffordd i’r ysbyty neu hyd nes i’r gwasanaethau brys gyrraedd. Maent yn cynnwys:
- Cymorth cyntaf (lefelau amrywiol)
- Criwiau ambiwlans
- Parafeddygon cofrestredig y Cyngor proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC)
- Meddygon cofrestredig y Cyngor Meddygol Cyffredinol (GMC)
- Nyrsys cofrestredig y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC)
A chyda 80 o adrannau lleol wedi’u lleoli ledled Cymru, mae tîm St John Ambulance Cymru bob amser yn lleol i’ch digwyddiad.
Cwestiynau Cyffredin
Fel trefnydd digwyddiadau, rydych chi’n gyfrifol am eich gweithwyr, contractwyr ac aelodau o’r cyhoedd yn eich digwyddiadau. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu’r gwasanaeth gorau ac yn gwybod yn union pa rwymedigaethau y mae angen i drefnydd digwyddiad eu bodloni!
I gael cyngor ac i holi ynghylch sut yr ydym yn darparu gofal meddygol yn eich digwyddiad, cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth.
Bydd eich ymholiad yn cael ei anfon ymlaen at ein tîm digwyddiadau ar gyfer eich ardal leol. Efallai y gofynnir i chi ddarparu gwybodaeth ychwanegol am eich digwyddiad ac yna cynhelir asesiad adnoddau a rhoddir dyfynbris.
Rydym yn cefnogi digwyddiadau o bob maint, gan gynnwys: Gornestau chwaraeon a thwrnameintiau (rygbi, pêl-droed, athletau, marathonau) Gwyliau a chyngherddau cerddorol, Digwyddiadau diwylliannol fel yr Eisteddfod Genedlaethol, Ffeiriau a Gorymdeithiau Cymunedol a dathliadau lleol, Digwyddiadau a heriau codi arian elusennol.
Ydych chi eisiau gofyn am gymorth meddygol ar gyfer digwyddiad?
Gydag adrannau lleol wedi’u lleoli ledled Cymru, mae tîm St John Ambulance Cymru bob amser yn agos at eich digwyddiad.