Bydd codwyr arian yn ymuno â ni ym mis Mai 2026 ar gyfer Taith Gerdded Mur Mawr Tsieina

Ym mis Mai 2026, bydd codwyr arian o bob cwr o Gymru yn cymryd rhan mewn her unwaith mewn oes, gan gerdded ar hyd un o ryfeddodau mwyaf y byd i godi arian hanfodol ar gyfer St John Ambulance Cymru.

Bydd Taith Gerdded Mur Mawr Tsieina yn digwydd rhwng 7 a 18 Mai 2026, gan gynnig antur 12 diwrnod i’r rhai a fydd yn cymryd rhan. Byddant yn dechrau’r her fythgofiadwy hon yn Hen Ben y Ddraig syfrdanol, lle mae’r Mur eiconig yn cwrdd â’r môr, yna byddant yn teithio ar hyd rhai o’r rhannau mwyaf hanesyddol gyda golygfeydd gorau’r Mur Mawr. Bydd cyfranogwyr yn profi’r ‘First Pass Under Heaven’ mawreddog ac yn cerdded trwy ddarnau o’r Mur sydd wedi’u cadw’n grefftus, gan gynnwys golygfeydd godidog o Huangyaguan a Jinshanling. Mae’r daith yn dod i ben gyda thaith ddiwylliannol o Beijing, sy’n cynnwys ymweliadau â Sgwâr Tiananmen a’r Ddinas Waharddedig. Mae’r antur gyffrous hon yn cael ei chynnal gan dîm profiadol 360 Expeditions ac mae’n cynnwys hediadau, trosglwyddiadau, llety a phrydau bwyd.

Dyma beth oedd gan Jen sydd wedi cofrestru ar gyfer yr her i’w ddweud:


“Bydd gen i ben-blwydd arbennig cyn bo hir, a phan welais daith gerdded Mur Mawr Tsieina yn cael ei hysbysebu, meddyliais dyma ffordd dda o ddathlu wrth gefnogi achos gwych! Nid bob dydd rydych chi’n cael y cyfle i brofi un o Saith Rhyfeddod y Byd. Mae’r tîm gwybodus yn 360 Expeditions yn gofalu am yr holl gynllunio – o deithio a llety i drosglwyddiadau, prydau bwyd, a thywysydd teithiau – gan fy ngalluogi i ganolbwyntio ar fy ngwaith codi arian a hyfforddiant yn y cyfnod cyn y daith. Mae cymorth cyntaf yn achub bywydau, ac mae’n anrhydedd cefnogi gwaith hanfodol St John Ambulance Cymru mewn cymunedau ledled Cymru. Os oes gennych achlysur arbennig ar y gweill neu os ydych chi’n chwilio am her unwaith mewn oes, rwy’n argymell yn gryf ichi gymryd rhan!”


I gymryd rhan, gofynnwn i’r cyfranogwyr godi isafswm nawdd o £3,590 i helpu i dalu cost y profiad anhygoel hwn a chefnogi ein gwaith o achub bywydau. Mae angen blaendal o £500 i sicrhau eich lle (gyda chynlluniau rhandaliadau ar gael), a bydd ein tîm codi arian ymroddedig gyda chi bob cam o’r ffordd i’ch helpu i gyrraedd eich nod. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’n tîm codi arian cyfeillgar ar fundraising@sjacymru.org.uk neu 02920 449 626.

Drwy ymuno â Thaith Gerdded Mur Mawr Tsieina, byddwch yn helpu St John Ambulance Cymru i barhau â’i waith hanfodol, gan ddarparu cymorth cyntaf ac achub bywydau ledled Cymru.

Donate to St John Ambulance Cymru

We rely on generous people like you to carry out our lifesaving work

St John Ambulance Cymru volunteer smiling at the Cardiff Half Marathon. She is wearing a bright yellow high visibility coat and has a badge showing she is an immediate first aider.