Gadewch Rodd Yn Eich Ewyllys

Gadewch waddol o achub bywydau yng Nghymru a pham mae eich rhodd yn bwysig

Ers dros 100 mlynedd, mae St John Ambulance Cymru wedi bod yno ar adegau o angen, gan gynnig cymorth cyntaf, hyfforddiant a chymorth hanfodol ledled Cymru. Trwy adael rhodd yn eich ewyllys, gallwch sicrhau ein bod yn parhau i achub bywydau ar gyfer cenedlaethau i ddod. Gallai eich gwaddol helpu i adeiladu cenedl o achubwyr bywyd a dod â ni’n agosach at ein gweledigaeth: cymorth cyntaf i bawb, unrhyw bryd, unrhyw le.

Mae gan rodd yn eich ewyllys, ni waeth beth fo’r maint, y pŵer i gael effaith barhaol. Bydd yn ein galluogi i hyfforddi cenedlaethau’r dyfodol, darparu gwasanaethau cymorth cyntaf ar draws cymunedau, a sicrhau bod cymorth achub bywyd bob amser ar gael pan fydd ei angen fwyaf. Lawrlwythwch ein llyfryn i ganfod sut y gall rhodd yn eich ewyllys helpu i lunio dyfodol St John Ambulance Cymru a pharhau â’n gwaith achub bywydau.

Ei gwneud hi’n hawdd gadael rhodd

Rydym wedi ffurfio partneriaeth â chynllunwyr ystadau arbenigol, Octopus Legacy, fel y gallwch ysgrifennu neu ddiweddaru eich ewyllys am ddim. Er bod llawer o gefnogwyr yn dewis cynnwys rhodd yn eu hewyllys i St John Ambulance Cymru, nid oes unrhyw rwymedigaeth i wneud hynny wrth ddefnyddio’r gwasanaeth hwn.

Mae cynllunwyr ystadau eraill ar gael a gellir dod o hyd i gyfreithwyr amgen yma ar wefan Cymdeithas y Cyfreithwyr.

Gallwch ysgrifennu eich ewyllys ar-lein, yn bersonol neu dros y ffôn/galwad fideo. I gael rhagor o wybodaeth am ein partneriaeth ag Octopus Legacy, ac i hawlio eich ewyllys am ddim cliciwch isod.

Os hoffech ein henwi yn eich ewyllys, enw ein helusen yw St John Ambulance Cymru, a’n rhif elusen gofrestredig yw 250523.

I siarad ag aelod o’n tîm Gwaddol neu i drafod rhodd benodol, anfonwch e-bost; legacy@sjacymru.org.uk neu ffoniwch 0300 201 1999.

Ein haddewidion i chi…

Bydd eich rhodd yn cael ei ddefnyddio'n ddoeth ac yn effeithiol.
Rydym yn parchu eich hawl i newid eich meddwl.
Byddwn yn eich trin gyda'r gofal mwyaf.
Rydym yn parchu eich hawl i gadw eich bwriadau yn breifat.
Gallwn drafod sut yr hoffech i'ch cefnogaeth gael ei gydnabod.
Os ydych chi'n dweud wrthym am rodd yn eich ewyllys, byddwn yn trafod gyda chi ynghylch y modd rydych chi eisiau clywed oddi wrthym ni.
Pan ddaw'r amser, byddwn yn cefnogi eich teulu a'ch cynrychiolwyr.
Byddwn bob amser ar gael i drafod eich rhodd gyda chi.
Os yw eich rhodd i'w defnyddio mewn ffordd arbennig, byddwn yn sicrhau bod y defnydd yn adlewyrchu eich dymuniadau yn y ffordd orau.

Can’t find what you’re looking for?

Or have further questions?

St John Ambulance Cymru volunteer smiling for the camera. She has grey hair and blue glasses. She is wearing a high visibility bright green coat with the St John Ambulance logo printed on the front.