Partneriaethau Corfforaethol
Mae partneriaethau corfforaethol elusennol wrth wraidd ein gweithrediadau codi arian.
Rydym yn ddiolchgar i’r holl fusnesau sy’n codi arian hanfodol ar gyfer St John Ambulance Cymru. Mae eu cefnogaeth yn ein galluogi i barhau â’n gwaith achub bywydau ar draws cymunedau Cymru.
Pam mae gweithio gydag elusen yn dda i’ch busnes?
Trwy godi arian a chefnogi elusen gofrestredig, gallwch wneud gwahaniaeth gwirioneddol i’r elusen y mae eich busnes yn dewis fel partner.
Mae yna lawer o fanteision i’ch busnes wrth gael Partneriaeth Gorfforaethol, megis y canlynol:
- Mae’n wych ar gyfer eich Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol (CSR) a’ch effaith gymdeithasol
- Mae’n gwella eich brand
- Mae’n denu cwsmeriaid newydd
- Mae busnesau sy’n cael eu hystyried yn gefnogol i’r gymuned leol yn aml yn adrodd am well teyrngarwch ymhlith cwsmeriaid
- Mae partneriaeth ag elusen yn ffordd ddelfrydol o roi hwb i forâl y tîm