Llwyddiant Codi Arian gydag Elusen Wifren Wib!

Ym mis Mehefin, aeth codwyr arian dewr i fyny i’r entrychion i oresgyn rhai o heriau adrenalin mwyaf Cymru, i gefnogi gwasanaethau elusennol St John Ambulance Cymru.

Roedd hyn yn cynnwys Gwifren Wib Phoenix yn ne Cymru, y wifren wib sedd gyflymaf yn y byd, gan gyrraedd cyflymder o hyd at 70mya. Yng ngogledd Cymru, roedd pobl yn chwilio am wefr ar yr Aero Explorer, hybrid gwifren wib a ffigar-êt unigryw, yn crogi’n uchel uwchben Chwarel y Penrhyn. Anogwyd cyfranogwyr i osod a chyflawni nodau nawdd.

Rhannodd Dev a Priyank eu profiad:

“Roedd yr her wifren wib yn anhygoel! Er gwaethaf y ffaith bod gennyf ofn uchder, roedd yn gyfle perffaith i fy mhartner a minnau wthio’r ffiniau ar gyfer achos da, gan godi arian er cof am fy nain, a oedd yn gwerthfawrogi pwysigrwydd dysgu. Roedd fy hyfforddiant cymorth cyntaf gydag St John Ambulance yn amhrisiadwy. Yn y byd heddiw, lle mae adnoddau gofal iechyd yn aml yn cael eu hymestyn i’r eithaf, gall bod â sgiliau cymorth cyntaf sylfaenol wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Ar y cyfan, roedd y digwyddiad yn brofiad gwych, ac rydw i mor falch fy mod wedi cymryd rhan!”

Diolch i bawb a gymerodd ran a’r dewrder a ddangosoch. Os hoffech godi arian ar gyfer St John Ambulance Cymru neu ganfod mwy am godi arian ar gyfer yr elusen, ewch i’n tudalen codi arian a rhoddion.

Donate to St John Ambulance Cymru

We rely on generous people like you to carry out our lifesaving work

St John Ambulance Cymru volunteer smiling at the Cardiff Half Marathon. She is wearing a bright yellow high visibility coat and has a badge showing she is an immediate first aider.