Our services
Gwasanaethau Ymateb i Gwympiadau
Mae ein Gwasanaeth Ymateb i Gwympiadau yn darparu cymorth cyflym, tosturiol i bobl sydd wedi cwympo, gan eu helpu yn ôl ar eu traed gyda gofal ac urddas.
Ers mis Ionawr 2018, rydym wedi cael ein comisiynu gan Wasanaeth Ambiwlans Cymru a phartneriaid eraill i weithio gyda nhw i ymateb i alwadau gan bobl sydd wedi cwympo mewn cymunedau ledled Cymru.
Mae’r Gwasanaeth Ymateb i Gwympiadau a ddarperir gan St John Ambulance Cymru, yn rhan annatod o Fframwaith Cwympiadau ac Eiddilwch Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, sy’n chwarae rhan ganolog wrth roi cymorth i bobl yn eu cymuned pan fydd ei angen arnynt fwyaf.
Ein Gwasanaeth Ymateb i Gwympiadau
Ein nod yw gwella profiad a chanlyniad y rhai sydd wedi cwympo. Mae ein gwasanaeth yn lleihau’r amser y mae’n ei gymryd i gyrraedd cleifion, asesu cleifion gartref, a derbyn cleifion i ysbytai.
Mae’r gwasanaeth yn gweithredu ledled Cymru ac mae’n cael ei gychwyn gan alwad 999 a dderbynnir gan Wasanaeth Ambiwlans Cymru. Yna mae ein cynorthwywyr cwympiadau yn cael eu hanfon i leoliad yr alwad ac yn asesu cleifion.
Gan weithio ar y cyd â chlinigwyr o Wasanaeth Ambiwlans Cymru, rydym yn sicrhau bod y driniaeth fwyaf priodol yn cael ei darparu ac yn cwblhau atgyfeiriadau.
Ein heffaith hyd yma
Mae Heneiddio’n Dda yng Nghymru yn amcangyfrif bod rhwng 230,000 a 460,000 o bobl dros 60 oed yn cwympo yng Nghymru bob blwyddyn. Bydd rhai o’r cwympiadau hyn yn arwain at alwad 999 i Wasanaeth Ambiwlans Cymru. O’r galwadau hyn, gellir trin bron i hanner gartref ac nid oes angen ambiwlans brys arnynt.
Ers dechrau’r cynllun yn 2018, mae ein Gwasanaeth Ymateb i Gwympiadau ac Eiddilwch wedi trin dros 35,000 o gleifion. Mae’r gwasanaeth wedi helpu i leihau nifer y galwadau ambiwlans brys, gan eu galluogi i ateb galwadau sy’n ymwneud mwy â pherygl i fywyd. Mae hefyd wedi caniatáu i lawer o’r rhai a ffoniodd 999, a oedd yn aml yn agored i niwed neu’n oedrannus, aros gartref.
Gwasanaeth ymateb i gwympiadau comisiwn uniongyrchol
Rydym yn darparu gwasanaeth ymateb i gwympiadau a gomisiynwyd yn uniongyrchol i awdurdodau lleol a byrddau iechyd.
Yn achos model yr awdurdod lleol, mae ein cerbyd ymateb fel arfer yn cael cais gan wasanaeth monitro teleofal sy’n darparu manylion am alwad awtomatig y llinell ofal i’r cynorthwyydd Cwympiadau. Mae ein hymatebwr yn mynd i eiddo’r cleient ac yn cynnal asesiad llawn yn unol â’n gweithdrefnau gweithredu.
Trwy weithio gyda’r tîm teleofal, y cleient a’i deulu, rydym yn sicrhau bod y cleient yn cael ei drin â thosturi ac y gofelir amdano mewn modd amserol. Yn y rhan fwyaf o achosion, mae’r claf yn cael ei adael yn ddiogel gartref.
Mewn un awdurdod rydyn ni’n gweithio ynddo, mae amseroedd ymateb wedi gostwng o 360 munud i 24 munud, gyda 90% o gleientiaid yn gallu aros gartref. Drwy sicrhau bod gwybodaeth atgyfeirio yn cael ei darparu i dîm llesiant y bwrdd iechyd lleol, rydym wedi gallu cefnogi’r gwaith o osgoi derbyniadau yn y gymuned, ac amcangyfrifir bod ein gwasanaeth wedi cyfrannu at arbed £750,000 i’r GIG mewn blwyddyn.
Cwestiynau Cyffredin
Nac ydi, dim ond ar ôl cysylltu â 999 neu drwy wasgu botwm llinell achub y byddai Cynorthwyydd Cwympiadau ar gael, ni ellir eu trefnu’n breifat. Byddem yn argymell ffonio 999 yn dilyn pob cwympiad sy’n achosi anaf.
Trwy ein gwasanaethau comisiynu, rydym yn sicrhau bod pob claf yn cael ei asesu cyn ei symud. Os yw’n briodol, ac i leihau effaith codi cleifion ar ein staff a’r claf, rydym yn defnyddio’r clustogau codi Mangar Camel a Mangar Eagle i godi cleifion o’r llawr.
Nac oes, mae tua 60-90% o’r rhai sydd wedi cwympo yr ydym ni’n eu trin yn aros gartref. Gan weithio gyda Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a phartneriaid eraill, ar ôl derbyn caniatâd, gallwn drefnu cymorth dilynol os oes angen.
Mae ein gwasanaeth ar gael ledled Cymru gyda cheir wedi’u lleoli ym mhob un o ardaloedd Bwrdd Iechyd Lleol Cymru.
Gellir cael rhagor o wybodaeth drwy gysylltu ag ao@sjacymru.org.uk.
Need more information?
Please get in touch and we’ll get back to you as soon as possible.