Amdanom ni
St John Ambulance Cymru yw elusen cymorth cyntaf Cymru. Am dros 100 mlynedd, rydym wedi bod yn achub bywydau, yn cefnogi cymunedau, ac yn rhoi’r sgiliau a’r hyder i bobl gamu ymlaen mewn argyfwng.
Heddiw, mae ein Pobl St John yn parhau â’r genhadaeth honno – gan weithio ledled Cymru i ddarparu gofal hanfodol, hyfforddiant a sicrwydd pryd bynnag y mae ei angen fwyaf.
Beth rydym ni’n ei wneud
Rydym yn elusen sy’n cael ei phweru gan wirfoddolwyr ac sydd wedi’i chefnogi gan staff proffesiynol. O ddarparu gwasanaethau cludo cleifion ac ymateb i gwympiadau, i ddarparu cymorth cyntaf mewn digwyddiadau mawr, mae ein pobl allan mewn cymunedau ledled Cymru bob dydd. Ochr yn ochr â hyn, rydym yn hyfforddi miloedd o bobl bob blwyddyn mewn sgiliau achub bywyd, gan helpu i greu Cymru fwy diogel ac iachach.
Ein hanes
Mae St John Ambulance Cymru yn rhan o deulu St John byd-eang, sydd wedi bod yn darparu cymorth cyntaf a gofal cymunedol ers canrifoedd. Ers ein sefydlu yng Nghymru, rydym wedi tyfu i fod yn bresenoldeb dibynadwy ledled y genedl — o bentrefi gwledig i ddinasoedd mawr. Mae ein hanes wedi’i adeiladu ar wasanaeth, ond mae ein ffocws yn gadarn ar y dyfodol a sut y gallwn barhau i ddiwallu anghenion cymunedau heddiw.
Ein tîm
WELSH TRANSLATION NEEDED
Adroddiadau a Dogfennau Llywodraethu
Archwiliwch ein hadroddiadau a’n dogfennau llywodraethu diweddaraf, sy’n amlinellu ein gwaith, ein heffaith a’n cyfeiriad strategol.
Adroddiad yr Ymddiriedolwyr a Datganiadau Ariannol
Darllenwch ein hadroddiad blynyddol a’n Datganiadau Ariannol Cyfunol ar gyfer y flwyddyn sy’n dod i ben 31 Rhagfyr 2024.
Erthyglau Cymdeithasu
Edrychwch ar Erthyglau Cymdeithasu a Rheoliadau St John Ambulance Cymru.
Adroddiadau Effaith
Canfyddwch sut rydym ni’n gwneud gwahaniaeth trwy ymweld â’n tudalen Adroddiad Effaith.
Dogfennau Strategaeth
Dysgwch fwy am ein gweledigaeth a’n cynlluniau ar gyfer y dyfodol.
Ein tîm arweinyddiaeth
Wrth galon St John Ambulance Cymru mae tîm o arweinwyr angerddol, sy’n arwain ein helusen gyda phrofiad, ymroddiad ac ymrwymiad i wneud gwahaniaeth.